Football

Eight unbeaten for leaders CPD Llanuwchllyn

Steffan Dolben scored a great goal for Llanuwchllyn

LOCK STOCK ARDAL NORTH EAST – SEPTEMBER 20

Radnor Valley 1 (Clarke pen 29)
Llanuwchllyn 3 (Evans 3, Dolben 48, Pughe 78)

Eight games unbeaten for Llanuwchllyn, who went four points clear at the summit after Saturday’s win at The Bypass.

The only game played in Ardal North East took place in wet conditions, but the result was worth the long journey for Sion Tudor’s men.

Llanuwchllyn were on fire from the start, not giving their opponents a chance to settle on the ball.

And in just the third minute the visitors broke through.

Steffan Dolben’s cross found top-scorer Meilir Williams whose firm strike was brilliantly kept out by keeper Otto Jones, but the ball fell nicely for Tommy Evans to find the net.

Chances flowed for the away side and on another day they would have scored a bagful, but not on this occasion.

Tom Roberts, Williams and Dale Davies all went close to a second goal.

Against the run of play, Radnor levelled on 29 minutes via a Jack Clarke penalty.

The interval gave Llan an opportunity to assess and revise tactics for the second half, and from the whistle they dominated.

In the 48th minute, Will Owen was the creator and Dolben the scorer of the game’s best goal – a superb shot into the top corner.

Llan made it 3-1 on 78 minutes via a Meirion Pughe free kick given for a foul on Tom Roberts, who had made a great run into a dangerous position before being brought down.

ADRODDIAD GYMRAEG (Diolch i tudalen Facebook CPD Llanuwchllyn)

Cynghrair Ardal Gogledd Ddwyrain
Radnor Valley 1 Llanuwchllyn 3

Triphwynt calonogol i Llan wrth iddynt deithio i’r canolbarth i wynebu Radnor Valley ar bnawn Sadwrn gwlyb.
O’r dechrau, gwelwyd bwriad yn chwarae Llan, pob un gyda tân yn eu boliau a ddim yn rhoi eiliad i chwaraewyr Radnor ar y bêl. Llan oedd yn llwyr reoli’r munudau agoriadol ac yn creu sawl cyfle addawol lawr yr esgyll.
O fewn y pum munud cyntaf, roedd Llan ar y blaen. Croesiad Steffan Dolben yn darganfod Meilir Williams yn y cwrt cosbi, ac yntau’n ergydio’n wych cyn i’r golwr arbed yn gampus. Yn ffodus, glaniodd y bêl yn daclus wrth draed Tommy Evans cyn iddo ddarganfod cefn y rhwyd. 0-1.
Daeth sawl cyfle arall i Llan, ac ar ddiwrnod arall gall yr ymwelwyr wedi sgorio llond llaw o goliau. Daeth Tom Roberts, Meilir a Dale Davies yn agos ond yn anffodus, roedd y postyn a golwr Radnor yn rhwystro Llan rhag ymestyn y fantais.
Yn erbyn llif y chwarae, y tîm cartref sgoriodd nesaf  yn dilyn chwarae blêr. Gwyrodd y bêl o bas llac i lwybr ymosodwr Radnor, a chafodd hwnnw ei lorio yn y cwrt cosbi. Cic o’r smotyn yn sicr, a Jack Clarke yn lefelu’r sgôr. 1-1.
Er y siom, daeth y chwiban i ddiweddu’r hanner cyntaf ar yr adeg iawn. Rhoddodd hyn gyfle i wneud ychydig o newidiadau a rhoi cynllun mewn lle ar gyfer yr ail hanner.
Cafwyd ymateb ardderchog gan yr hogiau, ac un tîm oedd ynddi. Yn debyg i’r hanner cyntaf, aeth Llan ar y blaen o fewn pum munud. Will Owen yn creu y tro hwn a Steffan Dolben yn sgorio gôl y gêm. Ergyd nerthol i gornel ucha’r rhwyd a Llan yn rheoli unwaith eto. 1-2
Bu i Llan wneud popeth o fewn eu gallu i ymestyn y fantais, ond unwaith eto roedd y golwr yn gadarn rhwng y pyst. Gwnaeth sawl arbediad arbennig ond rhaid canmol amddiffyn arwrol Radnor hefyd.
Yn ffodus, daeth y gêm i ben pan lwyddodd Llan i’w gwneud hi’n 1-3 gyda chwarter awr yn weddill. Rhediad campus Tom Roberts oedd yn creu y tro hwn pan gafodd ei lorio tu allan i’r cwrt cosbi, a  Meirion Pughe yn sicrhau’r fuddugoliaeth o gic rhydd. 1-3
Gyda’r tîm cartref yn awyddus i ddod â’r gêm i ben, cafodd Warren Duckett a Dale Davies gyfle i ymestyn y fantais yn y munudau olaf, ond y golwr unwaith eto yn arbed yn wych.
1-3 a Llan yn hapus gyda’r perfformiad.

  • Taith hir yn ôl i Radnor sy’n wynebu Llan wythnos nesaf, wrth i’r ddau dîm gystadlu yng Nghwpan y Gynghrair.
davenwsport

Recent Posts

Here come the girls! Time to launch this year’s top goalscorer competition in North Wales women’s football!

Loz Jones has started the season really well for Denbigh Town It's time to launch…

10 minutes ago

Eardley joins management team at Holywell Town

Sean Eardley has joined the coaching set-up at Holywell Town. Picture: HOLYWELL TOWN FC Holywell…

1 hour ago

Tiger holds lead in the 2026-27 Bob Brodie Trophy

Bob Brodie Trophy top marksman Jamie McDaid (right - stripes) in recent Welsh Cup action…

4 hours ago

Who has broken the 20-goals barrier in the North Wales Hotshots?

Mike Chapman of Llysfaen is on 21 goals for the season Mike Chapman of Llysfaen…

5 hours ago

NWCFA Challenge Cup: Bangor City 1876 and Llandudno progress to the last 16

Dec McManus struck at the double for Bangor City 1876. Picture: CPD DINAS BANGOR CITY…

1 day ago

North Wales Women’s Recreational League: Llandudno Amateurs off to flyer, wins for Mochdre, Valkyries and Phoenix

NORTH WALES WOMEN'S RECREATIONAL LEAGUE LATEST Monday, September 28 Llandudno Amateurs 3 Blaenau Ffestiniog Amateurs…

1 day ago